New Volunteering Programme
Rubicon Dance has received funding from WCVA to develop a structured, inclusive and strategically embedded volunteer programme.
Rubicon Dance has launched its new volunteering programme funded by WCVA. As a charity, we are so grateful for this funding. It will enable us to strengthen our capacity to deliver accessible community dance across Cardiff. It also allows our organisation to offer enriching opportunities for volunteers and help them develop skills, improve their well-being and deepen their connection to their community.
Throughout the summer our first group of volunteers supported the delivery of high-quality dance classes and community events. Young volunteers assisted tutors in dance classes through a week-long summer school. Adult volunteers assisted Rubicon Youth with their performances at Back to the Street and Butetown Carnival.
“It was an amazing experience, and I really enjoyed helping the younger ones out and seeing their dance develop”
- A young volunteer supporting summer school dance classes
Rubicon Dance will continue to develop volunteering roles in dance education, as well as other areas of the organisation such as marketing, fundraising and outreach. The organisation creates flexible and inclusive roles that allow a range of volunteers to engage with the work; bespoke roles will be created to support volunteers' interests, access needs and unique circumstances.
We will support volunteers throughout their volunteering journey by providing bespoke training and development pathways, covering reasonable expenses and responding to community need.
Rubicon Dance is excited to develop this programme with participant, volunteer and community feedback in mind.
For more information and to start volunteering, please contact volunteering@rubicondance.co.uk or call 02920 491477.
This project is funded by Welsh Government’s Volunteering Wales Main Grants Scheme, administered by WCVA
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Rhaglen Wirfoddoli Newydd Mae
Rubicon Dance wedi derbyn cyllid gan CGGC i ddatblygu rhaglen wirfoddoli strwythuredig a chynhwysol sydd wedi’i gwreiddio’n strategol yng ngwaith y sefydliad.
Mae Rubicon Dance wedi lansio ei raglen wirfoddoli newydd, a ariennir gan CGGC. Fel elusen, rydym ni'n hynod ddiolchgar am y cyllid hwn. Bydd yn ein galluogi ni i gryfhau ein gallu i ddarparu gweithgareddau dawns gymunedol hygyrch ledled Caerdydd. Mae hefyd yn galluogi ein sefydliad i gynnig cyfleoedd gwerthfawr i wirfoddolwyr a’u helpu nhw i ddatblygu sgiliau, gwella eu lles a chryfhau eu cysylltiad â’u cymuned.
Drwy gydol yr haf, roedd ein grŵp cyntaf o wirfoddolwyr yn cefnogi’r gwaith o ddarparu digwyddiadau cymunedol a dosbarthiadau dawns o ansawdd uchel. Roedd gwirfoddolwyr ifanc yn cynorthwyo tiwtoriaid mewn dosbarthiadau dawns yn ystod ysgol haf wythnos o hyd. Roedd gwirfoddolwyr hŷn yn cynorthwyo Rubicon Youth gyda’u perfformiadau yn Yn ôl i’r Stryd a Charnifal Tre-biwt.
“Roedd yn brofiad anhygoel, ac fe wnes i wir fwynhau helpu’r rhai iau a gweld eu dawnsio’n datblygu”
– Gwirfoddolwr ifanc a fu’n cefnogi dosbarthiadau dawns yr ysgol haf
Bydd Rubicon Dance yn parhau i ddatblygu rolau gwirfoddoli ym maes addysg ddawns, yn ogystal â meysydd eraill o waith y sefydliad megis marchnata, codi arian ac allgymorth. Mae’r sefydliad yn creu rolau hyblyg a chynhwysol sy’n galluogi amrywiaeth o wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith; bydd rolau pwrpasol yn cael eu creu i gefnogi diddordebau gwirfoddolwyr, eu hanghenion o ran mynediad a’u hamgylchiadau unigryw.
Byddwn ni'n cefnogi gwirfoddolwyr drwy gydol eu taith wirfoddoli drwy ddarparu llwybrau hyfforddi a datblygu pwrpasol, talu costau rhesymol ac ymateb i anghenion y gymuned.
Mae Rubicon Dance yn edrych ymlaen at ddatblygu’r rhaglen hon gan gadw adborth cyfranogwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned mewn golwg.
Am fwy o wybodaeth ac i ddechrau gwirfoddoli, cysylltwch â volunteering@rubicondance.co.uk neu ffoniwch 02920 491477.
Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC